Ynglyn â'r IPCC

Sefydlwyd yr IPCC gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 a daeth yn weithredol yn Ebrill 2004. Ei brif ddiben statudol yw cynyddu hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r IPCC hefyd yn ymchwilio i’r cwynion a’r honiadau mwyaf difrifol o gamymddwyn yn erbyn yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag ymdrin ag apeliadau gan bobl sy’n anfodlon ar y modd y mae’r heddlu wedi trin eu cwyn.
Yn Ebrill 2006, estynnwyd cylch gorchwyl yr IPCC i gynnwys cwynion difrifol yn ymwneud â staff yn yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA) ac yn Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Gwelodd Chwefror 2008 ei reolaeth yn ymestyn ymhellach i gynnwys cwynion difrifol a materion ymddygiad yn ymwneud â swyddogion yn Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig (UKBA).
Mae’r IPCC yn annibynnol, ac mae’n gwneud ei benderfyniadau yn hollol annibynnol oddi ar yr heddlu, y llywodraeth a’r achwynwyr.
Privacy | Copyright & disclaimer | Technical support & feedback | Accessing the site | Sitemap | The IPCC website is speech enabled