Canlyniad eich cwyn
Pan fydd yr heddlu neu’r IPCC wedi ymchwilio i’ch cwyn, fe roddir gwybod i chi p’un a yw’ch cwyn wedi ei chadarnhau neu beidio. Dylech dderbyn esboniad o gasgliadau’r ymchwiliad. Dylech hefyd gael gwybod beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y bydd hyn yn golygu un neu fwy o’r canlynol:
- gwella neu newid gweithdrefnau’r heddlu, neu newidiadau eraill o ganlyniad i ddysgu o’r sefyllfa y cwynoch amdani;
- ymddiheuriad i chi, naill ai gan neu ar ran rhywun y cwynoch amdano neu amdani neu ar ran yr heddlu cyfan;
- rhoi cyngor i’r swyddog neu unigolyn y cwynoch amdano neu amdani i sicrhau fod eu perfformiad yn gwella;
- mewn rhai achosion arbennig o ddifrifol, efallai y bydd yr heddlu yn gweithredu’n ffurfiol yn erbyn camymddygiad gan yr unigolyn y cwynoch amdano neu amdani;
- eto, mewn rhai achosion arbennig o ddifrifol, gall yr heddlu neu’r IPCC fynd â’ch cwyn at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Bydd y CPS yn penderfynu a oes digon o wybodaeth i fynd â rhywun i lys troseddol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fydd digon o wybodaeth mewn rhai achosion i allu gweithredu ymhellach ar eich cwyn.
Os deliwyd â’ch cwyn gan ddefnyddio Datrys yn Lleol, gallwch ddisgwyl esboniad o’r hyn a ddigwyddodd a achosodd i chi gwyno. Efallai y byddwch yn derbyn gwybodaeth i esbonio unrhyw gamddealltwriaeth neu ymddiheuriad ar ran yr heddlu o bosibl.
Get help opening pdfs with Adobe Acrobat Online Tools
Privacy | Copyright & disclaimer | Technical support & feedback | Accessing the site | Sitemap | Speech enabled | FoI