Datrys eich cwyn
Os bydd eich cwyn yn cael ei chofnodi, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y ffordd orau i ddatrys eich cwyn. Gall eich cwyn gael ei datrys trwy’r dulliau canlynol:
Mae’r rhan fwyaf o gwynion yn cael eu trin yn lleol gan yr heddlu dan sylw.
Beth yw’r broses Datrysiad Lleol?
Weithiau'r ffordd orau i drin cwyn yw i oruchwyliwr neu reolwr y swyddog neu’r aelod o staff siarad â chi fel ei fod yn medru deall am beth y mae eich cwyn ac yn medru cymryd unrhyw gamau addas i wneud pethau’n iawn.
Gall llawer o gwynion gael eu trin yn lleol gan reolwyr yn y gwasanaeth heddlu gan ddefnyddio’r dull hwn. Gelwir y dull hwn o ymdrin â chwynion yn Ddatrysiad Lleol. Mae’n golygu datrys, esbonio, clirio neu setlo eich cwyn yn uniongyrchol gyda chi.
Mae’r broses Datrysiad Lleol yn ddarostyngedig i’r canlynol:
- dim ond os byddwch yn cytuno i hynny y gall eich cwyn gael ei thrin trwy Ddatrysiad Lleol
- os byddwch yn penderfynu y dylai eich cwyn gael ei thrin trwy Ddatrysiad Lleol, bydd proses i ddatrys eich cwyn yn cael ei chytuno rhyngoch chi a’r heddlu
- ni all Datrysiad Lleol ar eich cwyn arwain at gamau disgyblu yn erbyn y swyddog heddlu unigol neu aelod o’r staff
Mae’r daflen Delio â’ch cwyn drwy Ddatrysiad Lleol yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Ymchwiliad yr heddlu
Bydd rhywun yn cael ei benodi i ymchwilio i’ch cwyn yn y sefyllfaoedd canlynol:
- os nad yw eich cwyn yn addas ar gyfer Datrysiad Lleol
- os na fyddwch yn cytuno i gael datrys eich cwyn trwy Ddatrysiad Lleol
Bydd yr ymchwilydd yn dweud wrthych sut y bydd eich cwyn yn cael ei hymchwilio, pa gydweithrediad sy’n ofynnol gennych chi, sut y byddant yn dod i benderfyniad a pha gamau fydd yn cael eu cymryd ar ddiwedd yr ymchwiliad.
Gallwch apelio at yr IPCC os ydych yn anfodlon ar ganlyniad ymchwiliad yr heddlu i’ch cwyn. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar daflenni apêl yr IPCC .
Ymchwiliadau’r IPCC
Os yw eich cwyn yn fwy difrifol, gall yr heddlu gyfeirio eich cwyn at yr IPCC. Mae’n rhaid i’r heddlu gyfeirio cwynion a materion ymddygiad sy’n cynnwys yr honiadau canlynol at yr IPCC :
- digwyddiadau pan fydd rhywun wedi marw neu gael ei anafu’n ddifrifol yn dilyn cyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol â’r heddlu
- ymosodiad difrifol gan aelod o’r gwasanaeth heddlu
- ymosodiad rhywiol difrifol gan aelod o’r gwasanaeth heddlu
- llygredd difrifol
- unrhyw drosedd neu ymddygiad a waethygwyd gan ymddygiad gwahaniaethol
- unrhyw drosedd berthnasol*
Dan yr amgylchiadau a restrir uchod, gall yr IPCC benderfynu cynnal ymchwiliad a oruchwylir, a reolir neu annibynnol. Fel arall gall yr IPCC roi cyfarwyddyd i’r heddlu ymchwilio eu hunain (ymchwiliad lleol).
* Mae hyn yn golygu trosedd y mae’r ddedfryd ar ei chyfer wedi ei phennu dan y gyfraith neu drosedd y byddai unigolyn 18 oed neu hyn (heb euogfarn flaenorol) yn cael dedfryd o garchar am gyfnod o saith mlynedd (neu a allai gael ei ddedfrydu oni bai am y cyfyngiadau a roddwyd gan adran 33 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980).
Ymchwiliad a oruchwylir gan yr IPCC
Cynhelir yr ymchwiliad hwn gan yr heddlu dan eu cyfarwyddyd a’u rheolaeth eu hunain ond mae’n cael ei oruchwylio gan yr IPCC. Mae ymchwiliadau dan oruchwyliaeth yn cael eu cynnal pan fydd yr IPCC yn penderfynu bod cwyn o arwyddocâd sylweddol ac o ddiddordeb tebygol i’r cyhoedd.
Mae gan yr achwynydd hawl i apelio at yr IPCC.
Ymchwiliad a reolir gan yr IPCC
Mae ymchwiliad a reolir yn cael ei gynnal gan yr heddlu ond dan gyfarwyddyd a rheolaeth yr IPCC. Fel arfer mae ymchwiliadau a reolir yn digwydd pan fydd yr honiadau o gymaint o arwyddocâd a diddordeb cyhoeddus tebygol fel bod angen i’r ymchwiliad gael elfen annibynnol.
Nid oes hawl i apelio yn erbyn ymchwiliad a reolir.
Ymchwiliad annibynnol yr IPCC
Mae ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal gan staff yr IPCC i ddigwyddiadau sydd:
- yn creu’r lefel mwyaf o bryder i’r cyhoedd
- yn cael yr effaith mwyaf posibl ar gymunedau
- ag oblygiadau difrifol ar gyfer enw da'r gwasanaeth heddlu
Nid oes hawl i apelio yn erbyn ymchwiliad annibynnol.
Get help opening pdfs with Adobe Acrobat Online Tools
Privacy | Copyright & disclaimer | Technical support & feedback | Accessing the site | Sitemap | Speech enabled | FoI