Cwynion yn erbyn staff Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig
Yr IPCC sy’n gyfrifol am y ffordd y mae cwynion difrifol yn erbyn staff Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig (UKBA) yn cael eu trin.
Mae’r IPCC yn gwneud yn siwr bod cwynion difrifol yn erbyn staff UKBA yn cael eu trin yn effeithiol ac mae’n gosod y safonau ar gyfer y ffordd y mae’r UKBA yn ymdrin â chwynion difrifol yn erbyn staff. Pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, mae’n helpu UKBA i ddysgu gwersi a gwella’r ffordd y mae’n gweithio.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y blwch gwyrdd:

Bydd yr IPCC yn:
- rhoi’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i chi i gyflwyno cwyn
- sicrhau bod UKBA yn ymdrin â chwynion i safon uchel
- yn ymchwilio i’r cwynion mwyaf difrifol gan ddefnyddio ymchwilwyr annibynnol
- helpu UKBA i wneud pethau’n iawn pan fu problem
Nid oes yr un o Gomisiynwyr annibynnol yr IPCC erioed wedi gweithio i UKBA. Maent yn dod o lawer o wahanol gefndiroedd ac yn cynnwys cyfreithwyr, gweithwyr iechyd ac addysg proffesiynol a phobl o sefydliadau gwirfoddol, busnes a chymunedol.
Mae gan yr IPCC hefyd dimau o ymchwilwyr annibynnol, gweithwyr achos a staff cefnogi. Mae’n gwneud ei benderfyniadau yn annibynnol i’r UKBA.
Yr IPCC a gwneud cwyn yn erbyn aelod o staff Asiantaeth Ffiniau’r DU (pdf 149kb)
Get help opening pdfs with Adobe Acrobat Online Tools
Privacy | Copyright & disclaimer | Technical support & feedback | Accessing the site | Sitemap | Speech enabled | FoI