Cofnodi eich cwyn
Yn ôl y gyfraith, rhaid cofnodi unrhyw gwyn yn erbyn yr heddlu a delio â hi dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 os yw’n bodloni’r diffiniad statudol cywir. Ceir esboniad o'r diffiniad hwn yng nghanllaw statudol yr IPCC. I grynhoi, rhaid i gwyn fod yn ymwneud ag ymddygiad unigolyn sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu, beidio ymwneud â chyfarwyddyd a rheolaeth yr heddlu, a chael ei chyflwyno gan aelod o’r cyhoedd neu rywun yn gweithredu ar ei ran ef neu ar ei rhan hi.
Nid oes gan yr IPCC y grym i gofnodi cwynion – yr heddlu neu awdurdod yr heddlu perthnasol sy’n gwneud hyn. Gan amlaf, Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu dan sylw yw hyn.
Felly os byddwch yn gwneud eich cwyn trwy’r IPCC, rhaid iddo anfon y gwyn ymlaen at yr heddlu neu awdurdod yr heddlu perthnasol. Fel arfer, fe ddelir â'ch cwyn yn gyflymach os ydych yn ei chyflwyno'n uniongyrchol i’r heddlu dan sylw.
Os yw’r Adran Safonau Proffesiynol yn penderfynu peidio cofnodi’ch cwyn, efallai y bydd yn bosibl i chi apelio i’r IPCC yn erbyn y penderfyniad hwn.
Rhoi caniatâd
Mae’r IPCC angen eich caniatâd cyn y gall anfon eich cwyn ymlaen at yr Adran Safonau Proffesiynol. Gofynnir i chi roi’ch caniatâd i hyn.
Heb eich caniatâd, ni all yr IPCC anfon manylion eich cwyn ymlaen, sy’n golygu na ellir delio â’ch cwyn.
Sut fyddaf yn cael gwybod am ddatblygiadau?
Fel arfer, bydd gennych hawl i gael gwybod sut mae’ch cwyn yn cael ei thrin, pa weithredoedd a gymerir o ganlyniad a sut y deuir i benderfyniad. Mae hyn yn wir p’un a yw’r heddlu neu’r IPCC yn delio â’ch cwyn.
Bydd yr heddlu neu’r IPCC hefyd yn cytuno ar ba mor aml a thrwy ba gyfrwng yr hoffech gael eich hysbysu.
Get help opening pdfs with Adobe Acrobat Online Tools
Privacy | Copyright & disclaimer | Technical support & feedback | Accessing the site | Sitemap | Speech enabled | FoI