Polisi preifatrwydd
Mae polisi preifatrwydd yr IPCC yn adlewyrchu ymrwymiad y Comisiwn i safonau moesol uchel ac i gynnal system agored a didwyll o reolaeth leol. Cynlluniwyd y polisi i gynorthwyo dealltwriaeth o’r modd y mae’r IPCC yn casglu, defnyddio a diogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu, ac i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth wrth ddefnyddio’r safle hwn.
Nid yw’r IPCC yn dal na chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n defnyddio’r wefan hon, ac eithrio pan fyddwch yn dewis rhoi eich manylion trwy e-bost neu trwy lenwi ffurflen ar-lein o’ch gwirfodd.
Bydd yr IPCC yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych wedi ei darparu ar gyfer dibenion prosesu eich ymholiad yn unig. Ni fydd yr IPCC yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd partïon ac eithrio pan fydd hynny’n ofynnol wrth gyflawni ei swyddogaeth dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 yn briodol.
Dylid cyfeirio cwestiynau parthed y datganiad hwn at yr IPCC trwy e-bost at enquiries@ipcc.gov.uk
neu trwy lythyr at:
IPCC
90 High Holborn
London
WC1V 6BH
United Kingdom
Pa wybodaeth y mae’r IPCC yn ei chasglu?
Pan fyddwch yn ymweld â’r safle hwn gallwch ddarparu dau fath o wybodaeth
- gwybodaeth bersonol yr ydych yn dewis ei rhoi sy’n cael ei chasglu yn unigol ee unrhyw ffurflenni ymholiad yr ydych yn eu llenwi a thrwy unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon
- gwybodaeth sy’n cael ei chasglu yn awtomatig trwy grynhoi gwybodaeth wrth i chi ac eraill bori trwy’r safle.
Gwybodaeth bersonol yr ydych yn dewis ei rhoi
Mae’r IPCC yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan ymwelwyr: adborth (trwy e-bost), cwestiynau am yr IPCC a cheisiadau am yrfaoedd.
Sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni?
Mewn meysydd sy’n gofyn i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol fel tanysgrifio i fwletin newyddion, mae’r wybodaeth yn caniatáu i’r IPCC anfon newyddion a chyhoeddiadau atoch trwy e-bost.
Mae’r IPCC hefyd yn defnyddio’r wybodaeth gronedig am batrymau defnydd ymwelwyr i’w alluogi hefyd i weld pa mor boblogaidd y mae gwahanol rannau o’r safle gan ymwelwyr, gan helpu penderfyniadau ar sut i ddatblygu’r safle ymhellach.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, bydd yr IPCC yn gosod y fersiwn diweddaraf ar y dudalen hon. Trwy adolygu’r dudalen yn gyson gallwch sicrhau eich bod yn gwybod pa wybodaeth y mae’r IPCC yn ei chasglu bob amser, sut y mae’n cael ei defnyddio a dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y bydd yn cael ei rhannu gyda phartïon eraill. Diweddarwyd y dudalen hon olaf ar 1 Ebrill 2004.
Mynediad at eich gwybodaeth
Os dymunwch weld y cofnodion o unrhyw ohebiaeth yr ydych wedi eu hanfon at yr IPCC, neu os oes gennych ymholiad neu gwyn am y polisi preifatrwydd hwn neu am y safle, gallwch gysylltu â’r IPCC trwy anfon e-bost at enquiries@ipcc.gov.uk
Get help opening pdfs with Adobe Acrobat Online Tools