Cael mynediad i’r safle
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i’ch helpu i ddefnyddio’r safle we a’r dogfennau ynddo. Rhoddir gwybodaeth ar:
- Lawr lwytho a gweld ffeiliau pdf
- Addasu maint eich ffont a’r lliw
Lawr lwytho a gweld ffeiliau pdf
Mae’r rhan fwyaf o ddogfennau ar y safle ar gael ar ffurf Dogfen Gludadwy (pdf). Er mwyn gweld y ffeiliau hyn bydd arnoch angen y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Acrobat Reader, y gellir ei lawr lwytho am ddim o wefan Adobe.
Os nad ydych yn medru darllen dogfennau pdf gallwch ddefnyddio offer trawsnewid ar-lein Adobe i drawsnewid y ddogfen yn html neu destun.
Am fwy o wybodaeth ar gael mynediad at ddogfennau pdf gallwch edrych ar y Ganolfan Adnoddau Hygyrchedd.
Addasu maint eich ffont a’i liw
Gall rhai defnyddwyr weld bod maint a lliw diofyn y ffont yn anodd eu darllen. Ond gallwch newid y ffont yn hawdd yng ngosodiadau eich porwr:
Er mwyn darganfod pa fersiwn o’r porwr yr ydych yn ei ddefnyddio, ewch i’r ddewislen “Help” ar frig eich sgrin a dewis yr eitem yn cychwyn gyda’r gair "About" (e.e. "About Internet Explorer" neu "About Netscape Communicator").
Dilynwch y cyfarwyddiadau isod ar gyfer eich porwr. Mae’r cyfarwyddiadau yma ar gyfer Microsoft Internet Explorer fersiynau 5 ac uwch a Netscape Communicator fersiwn 4.7; mewn porwyr eraill gall y weithdrefn fod ychydig yn wahanol.
Am ragor o help wrth newid gosodiadau eich porwr, cyfeiriwch at y ddewislen “Help” ar far offer eich porwr.
1. Internet Explorer (fersiynau 5.5 ac uwch)
Newid maint y ffont
Er mwyn newid maint y testun, cliciwch ar "view" ar ben uchaf ffenestr eich porwr. Bydd dewislen yn ymddangos. Yn y fan hon dewiswch "text size" a dewis y maint o’r rhestr.
Newid lliwiau
Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i newid y lliwiau a welwch ar eich tudalennau ar y we:
- Cliciwch "Tools" ar frig ffenestr eich porwr. Bydd dewislen yn ymddangos.
- O’r ddewislen hon, dewiswch "Internet options". Bydd blwch arall yn ymddangos.
- Chwiliwch am y botwm gyda’r gair "Accessibility" yng ngwaelod y sgrin ar y dde a chlicio arno. Bydd blwch newydd yn ymddangos.
- Cliciwch yn y sgwâr gwyn wrth ymyl "Ignore colours specified on web pages". Pan fydd tic yn ymddangos yn y blwch, cliciwch "OK" i gau’r blwch.
- Yn y blwch "Internet options" (a ddylai fod ar agor o hyd, os nad ydyw, agorwch hwn eto o’r ddewislen "Tools" ar eich porwr) cliciwch y botwm dan y label "Colours". Bydd blwch arall yn ymddangos.
- Dilëwch y tic yn y blwch "Use Windows colours".
- Yn awr cliciwch ar y sgwâr i’r dde o "Text" a dewis lliw'r testun (e.e. melyn).
- Cliciwch y sgwâr i’r dde o "background" a dewis lliw cefndir (e.e. du).
- Cliciwch "OK" ar ôl gorffen.
Ar ôl gwneud hyn i gyd fe ddylech weld bod y rhan fwyaf o dudalennau yr ydych yn mynd iddynt yn cynnwys testun bras sydd yn felyn ar gefndir du yn awtomatig.
2. Netscape Communicator (fersiwn 4.7)
Er mwyn newid gosodiadau’r porwr, agorwch y blwch "Preferences" trwy glicio ar "Edit" a dewis "Preferences". Gallwch wedyn ddewis gwneud unrhyw un o’r newidiadau a restrir isod.
Newid ffont y testun
- Er mwyn newid ffont y testun, dilynwch y camau hyn:
- Cliciwch ar "Appearance".
- Cliciwch "Font".
- Dewiswch y ffont lled amrywiol a’r ffont lled sefydlog yr ydych am eu defnyddio.
- Cliciwch "OK".
Os ydych am osod y ffontiau hyn ar gyfer bob tro yn y dyfodol yn eich porwr, cliciwch ar "Use my default fonts overriding document specified fonts".
Newid lliwiau
Er mwyn newid lliwiau’r testun a’r cefndir, gwnewch y canlynol:
- Cliciwch ar "Appearance".
- Cliciwch ar "Colours".
- Dewiswch y blwch agosaf at "Text" a dewis lliw.
- Cliciwch "OK".
- Dewiswch y blwch agosaf at "Background"' a dewis lliw.
- Cliciwch "OK".
- Cliciwch "OK" i gau "Preferences".
Er mwyn gosod y lliwiau hyn fel rhai diofyn eich porwr, cliciwch ar "Always use my colours, overriding document".
Get help opening pdfs with Adobe Acrobat Online Tools