Sefydlwyd yr IPCC gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a daeth yn weithredol yn Ebrill 2004.
Mae’r IPCC yn annibynnol, ac mae’n gwneud ei benderfyniadau yn hollol annibynnol oddi ar yr heddlu, y llywodraeth a’r achwynwyr.
Prif bwrpas statudol yr IPCC yw cynyddu hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r IPCC hefyd yn ymchwilio i’r cwynion a’r honiadau mwyaf difrifol o gamymddwyn yn erbyn yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag ymdrin â rhai apeliadau gan bobl sy’n anfodlon ar y modd y mae’r heddlu wedi trin eu cwyn.
Mae’r IPCC yn gyfrifol am ymdrin â chwynion difrifol a materion ymddygiad yn ymwneud â staff yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA), Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), ac Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig (UKBA).
Ar 16 Ionawr 2012, diddymwyd Awdurdod yr Heddlu Metropolitan a sefydlwyd Swyddfa’r Maer dros Blismona a Throseddau (MOPAC). Yr IPCC sydd yn gyfrifol yn awr am benderfynu a ddylid ymchwilio i honiadau bod MOPAC neu ei Ddirprwy wedi cyflawni trosedd.
Ar 22 Tachwedd 2012, etholwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau ar gyfer pob llu heddlu yng Nghymru a Lloegr. Yr IPCC sydd yn gyfrifol yn awr am benderfynu a ddylid ymchwilio i unrhyw honiadau bod y Comisiynwyr neu eu Dirprwyon wedi cyflawni trosedd.
Darganfyddwch wybodaeth am y mathau o ymchwiliadau gan yr IPCC.
Darganfyddwch am Gadeirydd, Comisiynwyr, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr yr IPCC.
Gwybodaeth am gyfarfodydd y Comisiwn.
Cliciwch yma i ddarganfod organogram o'r strwythur trefniadol
Adroddiadau treuliau’r Cadeirydd, Comisiynwyr, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr. Mae yna adroddiadau treuliau ar gyfer y cyfnod Ebrill 2009 i Fawrth 2010.
Cliciwch yma am ystod cyflogau yr IPCC a’r organogram
© Independent Police Complaints Commission All Rights Reserved