Diben y Ddeddf yw gwneud gwybodaeth a ddelir gan gyrff cyhoeddus yn fwy hygyrch a hyrwyddo bod yn agored a thryloyw yn y modd y maent yn cynnal eu busnes.
Y prif nodweddion yw:Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl cyffredinol i gael mynediad at wybodaeth a gofnodir a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae gennych hawl i gael gwybod a yw’r IPCC yn dal y wybodaeth neu beidio, ac os yw, i’r wybodaeth gael ei chyfleu i chi. Mae rhai eithriadau i’r hawl i fynediad. Er enghraifft, caiff yr IPCC beidio cydymffurfio â’ch cais pan fydd:
Nid yw’r hawl cyffredinol i gael mynediad yn cymryd unrhyw ystyriaeth o unrhyw gyswllt rhwng yr ymgeisydd a’r wybodaeth y mae ef neu hi yn ei geisio. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gysylltiad personol rhyngoch chi a’r wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani yn hollol amherthnasol i’r cwestiwn a ddylid datgelu’r wybodaeth dan y Ddeddf.
Er enghraifft, ni fydd eich hawl i weld cynnwys ymchwiliad cwyn yn erbyn yr heddlu yr ydych chi yn rhan ohoni yn wahanol o gwbl i unrhyw aelod o’r cyhoedd yn gofyn am yr un wybodaeth. Mae hyn oherwydd bod gwybodaeth sy’n hygyrch i un ymgeisydd dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei hystyried ar gael ‘i’r byd a’r betws’.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys nifer o eithriadau. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn cael gweld gwybodaeth bersonol am bobl eraill, ac ni all eich gwybodaeth bersonol chi gael ei rhyddhau i chi heblaw dan y Ddeddf Diogelu Data. Mewn rhai enghreifftiau, gall gwybodaeth sydd wedi ei heithrio dan y Ddeddf gael ei dal yn ôl pan na fydd budd y cyhoedd yn ffafrio datgelu.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am sut i ofyn am wybodaeth
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar ble i anfon eich cais
Cliciwch yma i ddarganfod beth allwch chi ei ddisgwyl gan yr IPCC pan fyddwch yn gwneud cais
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar sut i apelio yn erbyn peidio datgelu gwybodaeth
© Independent Police Complaints Commission All Rights Reserved